AMSER BYRBRYD
Cyfnod Sylfaen: Mae amser byrbryd yn achlysur addysgiadol a phleserus. Gofynnwn yn garedig ichi anfon darn o ffrwyth neu lysieuyn (nid grawnwin) a photelaid o ddŵr i’r ysgol gyda’ch plentyn yn ddyddiol. DIM CNAU O UNRHYW FATH OS GWELWCH YN DDA. Gofynnwn ichi labelu ffrwyth a photel eich plentyn.
CINIO YSGOL
Bydd yr ysgol yn darparu cinio’n ddyddiol (gan gynnwys bwyd llysieuol). Mae’r fwydlen wedi ei pharatoi gan ddietegwyr y Sir. Mae’r ciniawau yn flasus, yn ddigonol ac yn llesol.
Pris y cinio yw £2.60 y dydd (£13 yr wythnos). Mae angen i chi dalu ac archebu ciniawau eich plentyn / plant trwy ddefnyddio system Parent Pay (byddwch yn derbyn llythyr er mwyn actifadu cyfrif eich plentyn yn syth eu bod yn dechrau gyda ni). Mae angen credyd ar gyfrif eich plentyn / plant er mwyn iddynt dderbyn cinio.
PECYN BWYD
Os dymunwch anfon bocs cinio gyda’ch plentyn gofynnwn yn garedig ichi gefnogi polisi bwyta’n iach yr ysgol trwy beidio â chynnwys siocled, losin ac yn y blaen yn y bocs. ETO, DIM CNAU O UNRHYW FATH!
SNACK TIME
Foundation Phase: Our aim is to make snack time a pleasant and an educational experience for your child. We kindly ask you to send a piece of fruit or vegetable (no grapes) and a bottle of water with your child to school. NO NUTS OF ANY KIND PLEASE. Please make sure these are clearly marked with your child’s name.
SCHOOL LUNCH
Lunches are provided daily by the school. The lunch menus have been devised by
the County’s dieticians. They are tasty, filling and nutritious. Vegetarian options are available daily.
School lunches cost £2.60 a day (£13 a week). All school meals must be paid via the Parent Pay system (you will receive a letter to activate your account when your child starts with us). You will need to ensure that your child's account is in credit in order for them to be able to have lunch.
PACKED LUNCH
If a packed lunch is provided by the parents we ask for their kind cooperation in
supporting our healthy school policy, by not including crisps, biscuits, chocolate, sweets etc in the packed lunch box. AGAIN, NO NUTS OF ANY KIND
Adnoddau Bwyta'n Iach / Healthy Eating Resources