Dewislen / Menu
Home Page

ADY / ALN

Cymorth Ychwanegol

 

Trwy gynllunio cwricwlwm gwahaniaethol sicrhawn fod yr holl ddisgyblion yn derbyn gweithgareddau addas at eu gallu. Bydd arsylwi cyson yn galluogi’r athrawon i baratoi gweithgareddau addas i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y gweithgareddau yn gymorth i rai disgyblion gyrraedd y nodau dymunol a byddant yn ymestyn eraill i’w llawn botensial.

 

Weithiau bydd rhai disgyblion yn wynebu problemau mwy dwys na’r cyffredin, lle bydd angen cymorth ychwanegol arnynt. Os gwelwn fod angen cymorth ychwanegol bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhieni/gwarcheidwaid er wmyn rhannu gwybodaeth a thargedau addas. Os bydd angen datganiad Anghenion Dysgu Ychwanegol ar unrhyw ddisgybl bydd yr ysgol yn cadw cysylltiad agos â’r rhieni ac yn cydweithio â hwy a’r asiantaethau allanol.

 

Extra Support

 

The careful planning of a differentiated curriculum ensures that each pupil takes part in activities best suited to his/her ability. Regular monitoring of the pupils’ progress enables teachers to plan appropriate activities. Planned activities will support some pupils and will stretch others in order that all achieve their full potential.

 

At times some pupils will face more significant problems, where extra help will be required. If extra support is needed the school will contact the parents to share information and appropriate targets. If it is decided that a pupil needs a statement of special educational needs the school will maintain close contact with the parents and work with them and any necessary external agencies.

Y Ddeddf Newydd i blant

Still image for this video

Isod mae nifer o adnoddau gellir eu defnyddio adref. Mae yna amrywiaeth o glipiau fidio a gweithgareddau allasai fod o gymorth. 

Mae athrawon dosbarth yr ysgol bob amser yn hapus i rhannu targedau a chynnig cyngor ar sut i gefnogi eich plentyn yn y cartref. Mrs Lois John yw yr Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Drod Dro).  Mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch fwy o wybodaeth neu gymorth. 

                                                                     Dolenni Defnyddiol - Helpful Links

Interactive Bar

Google Services

Search

Translate

Top