Dewislen / Menu
Home Page

Cwricwlwm / Curriculum

Cyhoeddi ein Cwricwlwm (Gorffennaf 2022) / Publishing our Curriculum (July 2022)

Crynodeb o'r Gynllun Gwella Ysgol 2022-23 / Summary of the School Improvement Plan 2022-23

Y CWRICWLWM

 

Ein bwriad yn Ysgol Hamadryad yw datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol ac felly byddwn yn dilyn egwyddorion y Cyfnod Sylfaen fel y maent yn cael ei diffinio yn y ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Byddwn yn cyflwyno cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol er mwyn datblygu’r disgyblion yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus.

 

Sail y cwricwlwm newydd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yw datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd – Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Mae’r rhain yn gwau i mewn ac yn rhedeg ar draws meysydd y Cyfnod Sylfaen - ein nod yn syml yw darparu cyfleoedd cyfoethog a bythgofiadwy er mwyn sbarduno dychymyg pob un plentyn, gyda’r parodrwydd i herio gyda syniadau a geirfa, a chyd-destunau atyniadol.

 

MEYSYDD DYSGU A PHROFIAD CYFFREDIN O 3 i 16 OED

 

Bydd y cwriwcwlm newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn gosod y paramedrau ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. Y rhain yw:

 

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

 

Bydd pob un o’r Mesydd Dysgu a Phrofiad yn cynnwys dimensiwn Cymreig, lle bo’n briodol, yn ogystal â phersbectif rhyngwladol a phersbectif y Deyrnas Unedig.

 

Blynyddoedd cynnar plentyn sydd yn ffurfio sail ei ddatblygiad yn y dyfodol. Yn y blynyddoedd cynnar hyn cawn y cyfle i ehangu agwedd yr holl blant tuag at ddysgu ac i roi cychwyn da iddynt ar eu taith i fod yn ‘ddysgwyr gydol oes’, sy’n allweddol at lwyddiant pob plentyn.

 

Byddwn yn dysgu’r holl fesydd dysgu drwy gyd-destunau dysgu traws-gwricwlwaidd.

 

THE CURRICULUM

 

At Ysgol Hamadryad we aim to develop independent and confident learners. We

follow the principles of the Foundation Phase by planning for ‘Successful Futures’. The school offers a wide ranging, balanced, relevant and differentiated curriculum.The aim is to foster ambitious and capable learners, enterprising and creative contributors, ethical and informed citizens and healthy and confident individuals.

The new curriculum ‘Successful Futures’ is based on the development of cross curricular skills - Literacy, Numeracy and Digital Compentency. These skills are developed across the areas of learning in the Foundation Phase. Our aim is to provide rich and memorable learning experiences which will ignite the imagination of every child, with the readiness to use challenging ideas and vocabulary, and attractive contexts for learning.

 

COMMON AREAS OF LEARNING AND EXPERIENCE FROM AGES 3 TO 16

 

The new curriculum for the Foundation Phase and beyond, will set the parameters for each Area of Learning and Experience.

These are:

  • Expressive arts
  • Health and well-being
  • Humanities
  • Languages, literacy and communication
  • Mathematics and numeracy
  • Science and technology

Each Area of Learning and Experience should include, where appropriate, a Welsh dimension as well as an international and UK perspective.

 

The early years of a child’s life form the basis for their future development. It is during the early years that we have the opportunity to enhance each child’s disposition to learning and to start them on the road to being ‘lifelong learners’, which is key to success for all children.

 

We teach the above areas through cross curricular contexts.

Interactive Bar

Google Services

Search

Translate

Top