Dewislen / Menu
Home Page

Hanes yr ysgol / The school's history

 

HANES YR YSGOL

 

Ym mis Medi 2016, agorwyd drysau Ysgol Hamadryad gydag un dosbarth derbyn o un deg saith o blant mewn lleoliad dros dro y drws nesaf i Ysgol Gynradd Ninian Park.  Rydym yn falch iawn o gysylltiadau Cymraeg y safle dros dro. Yn adeilad Ysgol Gynradd Ninian Park yr agorwyd ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd yn 1949, ac ar y safle hwn hefyd yr oedd Ysgol Gymraeg Tan-yr-Eos rhwng 2006 a 2013.  

Yn sgil cau Tan-yr-Eos fe ddechreuwyd ymgyrch gan bobl leol er mwyn sicrhau bod y galw am addysg Gymraeg yn ardaloedd Tre-biwt a Grangetown yn cael ei ddiwallu.  Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a bydd yr adeilad newydd yn cael ei ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru (Cynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain). Yn mis Ionawr 2019, agorwyd drysau Ysgol Hamadryad am y tro cyntaf ar ein safle barhaol, am bennod newydd a chyffrous! Mae’n destun balchder a llawenydd mawr fod yr ysgol wedi ei sefydlu a bod yr athrawon a’r llywodraethwyr yn gwireddu’r freuddwyd o ysgol flaengar a chroesawgar ar gyfer holl blant yr ardal.

 

THE SCHOOL’S HISTORY

 

In September 2016, Ysgol Hamadryad opened with one Reception class of seventeen pupils on a temporary site next door to Ninian Park Primary School.  We are proud of the Welsh conncections on our temporary site. In 1949, the first Welsh school in Cardiff opened in Ninian Park Primary School’s building, and between 2006 and 2013 Ysgol Gymraeg Tan-yr-Eos occupied the same site.

In light of the closure of Tan-yr-Eos and its amaligamation with Ysgol Treganna a local group of people began a campaign to ensure that the increasing demand for Welsh medium education in Butetown and Grangetown was fulfilled. The campaign was a success, the new building will be financed by Cardiff Council and Welsh Government (21st Century School Programme). In January 2019, the school opened it's doors for the very first time on it's brand new permanent site, a new and exciting chapter! It is with immense pride and great joy that the school has finally been established and that the staff and governors are able to make the dream of a forward thinking and welcoming school for all local children a reality.

Interactive Bar

Google Services

Search

Translate

Top