Skip to content ↓

Cylch meithrin Grangetown a’r Bae

cylchmeithringrangetown.org cylchmgb@gmail.com

Mae Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae yn  feithrinfa gyfeillgar a chroesawgar sy’n darparu gofal plant o’r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg i deuluoedd yn ardaloedd Grangetown a Threbiwt o Gaerdydd. 

Rydym wedi ein lleoli yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad ac rydym yn cynnig sesiynau i blant o 2 oed i fyny yn ystod tymor yr ysgol. Mae sesiynau bore, prynhawn a diwrnod cyfan (8.45am - 2.45pm) ar gael, yn ogystal â gofal cofleidio i blant sy’n mynychu’r ysgol.

Mae’r Cylch yn fywiog a phrysur, ac mae amgylchedd creadigol a hwyliog yma. Mae’n tîm arbennig o staff yn ofalgar a phroffesiynol, ac rydym yn gweithio’n agos gyda rhieni a’r gymuned leol i sicrhau’r gofal gorau bosib ar gyfer ein plant.

Mae’r Cylch yn cynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n ffordd wych o gyflwyno’r iaith i blant. 

Mae dysgu trwy chwarae yn rhan allweddol o’n gofal. Mae rhai o’n gweithgraeddau parhaus yn cynnwys:

  • Adrodd straeon dychmygus
  • Canu caneuon hwyliog, archwilio celf a chrefft
  • Chwarae blêr a chwarae gyda dŵr a thywod

Chwarae gyda beiciau a sgwteri

Oriau / Ffioedd

Sesiwn Bore: 8.45am - 11.15am = £19.25 

Sesiwn Prynhawn: 12.15pm - 2.45pm = £19.25 

Diwrnod cyfan: 8.45am - 2.45pm = £41

Gofal Cofleidiol*: 8.45am - 12.30pm NEU 11.15-2.45 = £22 (Os yn defnyddio Cynnig Gofal Plant Cymru, ffi gofal cofleidiol yw £4.50 y dydd)

* Mae Gofal Cofleidiol yn golygu fod staff yr ysgol a’r Cylch yn hebrwng y plant o’r Cylch i’r Meithrin neu o’r Meithrin i’r Cylch, a bydd y plant yn derbyn gofal yn y Cylch yn ystod amser cinio. 

Bwyd: Rydym yn cynnig byrbryd iach ym mhob sesiwn. Bydd angen i rieni baratoi pecyn bwyd i'w plant i ginio.