Skip to content ↓

Ffrindiau Hamadryad

Mae Ffrindiau Ysgol Hamadryad Friends yn Gymdeithas Rieni ac Athrawon ac yn elusen gofrestredig.

Gyda’n gilydd rydym yn codi arian i hybu addysg a phrofiadau pob plentyn sy’n mynychu Ysgol Hamadryad. Mae’r arian rydym yn ei gasglu yn cael ei wario ar ystod eang o eitemau a phrofiadau. Mae rhai o rhain yn cynnwys piano newydd, gweithgareddau maes chwaeae a gwisg chwaraeon.

Rydym yn casglu arian drwy gynnal digwyddiadau cyson ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Yn ogystal a’n ffeiriau gaeaf a haf, rydym hefyd wedi cynnal disgos, noson gwis, gwerthiant llyfrau a hyd yn oed ras amryliw!

Mae hyn oll yn bosib oherwydd fod grŵp o athrawon a rhieni yn gwirfoddoli eu hamser, eu hegni a’u creadigrwydd. Os hoffech ymuno â Ffrindiau Ysgol Hamadryad, neu i helpu o dro i dro, ebostiwch ffrindiauhamadryadfriends@gmail.com neu dewch i’n cyfarfod nesa.

Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, rydym yn gofyn i bob rhiant ymrwymo awr o’u hamser i Ffrindiau Ysgol Hamadryad. Gyda dros 350 o blant, dychmygwch be allwn ni gyflawni gyda’r holl help!

Pwyllgor 

Cadeiryddion: Lowri Farr & Hanna Lewis

Is-gadeirydd: Catrin Roberts-Condon

Ysgrifenyddes: Mari Williams

Trysorydd: Elin Rowlands

 

Cynrychiolwyr Dosbarth

Dosbarth Castanwydden Bl6 – Claire Llewellyn

Dosbarth Pinwydden Bl5 - Helen Crane

Dosbarth Sycarmorwydden Bl5 – Maria Pournara

Dosbarth Ffawydden Bl4 - Gwenno Uhi

Dosbarth Llwyfen Bl3/4 –   Sarah Gilbert / Liz Jones

Dosbarth Ysgawen Bl3 – Abbey Moore

Dosbarth Helygen Bl2 - Emily Lewis

Dosbarth Onnen Bl2– Gwen McDonald + Jen Dunne

Dosbarth Gwern Bl1 - Catrin Roberts-Condon

Dosbarth Ceiriosen Bl1 – Geraint Criddle

Dosbarth Collen – Steffan Watkins

Dosbarth Bedwen – Kellie Reynolds

Dosbarth Celyn Bore – Lowri Elen Edwards

Dosbarth Celyn P'nawn – Kriza Williams

Gwisg Ysgol 

Mae’r wisg ysgol ail-law ar gael drwy gydol y flwyddyn yn y Neuadd Fach ger y dderbynfa. System "talu’r hyn gallwch chi" sydd ar waith.

Croesewir rhoddion yn y bin porffor ger y sied feiciau.

Os hoffech wirfoddoli eich amser i helpu gyda rheoli’r wisg ysgol, cysylltwch â ni.