Gwisg Ysgol
GWISG YSGOL
Gweler polisi Gwisg Ysgol yn yr adran polisiau.
Er mwyn teimlo’n rhan o gymuned yr ysgol rydym yn annog pob disgybl (yn cynnwys plant y Feithrin)i wisgo gwisg yr ysgol yn ddyddiol.
Siop YC Sports yw cyflenwyr swyddogol y wisg ysgol, ond mae croeso i chi brynu gwisg ysgol yn y lliwiau cywir o unrhyw ddarparwr gyda neu heb fathodyn yr Ysgol. Os hoffech fathodyn yr Ysgol ar y wisg bydd angen mynd i YC Sports.
YC Sports, 156 Cowbridge Road East, Caerdydd, CF11 9DU; 029 2022 0246.
Cofiwch ddod i'r neuadd Fach i gasglu gwisg ysgol ail-law unrhyw bryd. Mae detholiad ardderchog o ddillad ar gael, diolch yn fawr i Ffrindiau Hamadryad am drefnu'r wisgoedd.
Gaeaf
Siwmperi: glas
Crysau polo: gwyrddlas
Sgert/trowsus: llwyd
Esgidiau: duon
Sanau: du/llwyd
Haf
Siwmperi: glas
Crysau polo: gwyrddlas
Ffrog las a gwyn (streipiog neu siec)
Trowsus: byr llwyd
Esgidiau: duon neu sandalau call
Sanau: gwyn/du/llwyd
Gwisg Addysg Gorfforol
Dylai plant wisgo gwisg Addysg Gorfforol ar ddiwrnodau pan fo ganddynt wersi Addysg Gorfforol (2 ddiwrnod yr wythnos), a dim ond ar y diwrnodau hynny. Bydd pob plentyn yn aelod o lys ar gyfer amrywiol weithgareddau’r ysgol a dylent wisgo crys-T yn cyfateb â lliw eu llys fel gwisg Addysg Gorfforol. Nid oes yn rhaid i’r crys-T gynnwys bathodyn yr ysgol.
Y wisg Addysg Gorfforol yw:
- Crys-T Addysg Gorfforol yn lliw’r llys
- Siwmper / cardigan: glas (yn dangos bathodyn yr ysgol os dymunir)
- Trowsus neu siorts hyfforddi: du neu llwyd tywyll heb logo amlwg
- Sanau: gwyn/du/llwyd
- Esgidiau: esgidiau addas ar gyfer ymarfer corff