Gweledigaeth yr Ysgol
Yn Ysgol Hamadryad, mae croeso cynnes i bawb. Ein huchelgais yw meithrin cymuned hapus, gynhwysol a byrlymus lle mae pob unigolyn yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi ac yn perthyn. Rydym yn falch o'n Cymreictod, ein cynefin a'n cymuned unigryw, ac yn dathlu'r amrywiaeth sy'n cyfoethogi ein hysgol.
Ein gweledigaeth yw meithrin unigolion hyderus, egwyddorol ac uchelgeisiol sy'n ymwybodol o'u hunaniaeth ac yn falch ohoni. Bydd ein disgyblion yn garedig, yn barchus ac yn ofalgar tuag at eu hunain, eraill a'r amgylchedd. Byddant yn greadigol, yn wydn ac yn annibynnol, gyda'r hyder i anelu’n uchel, datblygu eu doniau unigryw a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.
Drwy feithrin perthnasoedd iach, hyrwyddo lles corfforol a meddyliol, a chreu naws deuluol sy'n treiddio pob agwedd o fywyd yr ysgol, byddwn yn galluogi ein dysgwyr i ffynnu fel dinasyddion moesegol, gwybodus ac ymgysylltiedig. Gyda’n gilydd, byddwn yn gwneud gwahaniaeth ac yn paratoi ein plant i fod yn arweinwyr hyderus mewn Cymru aml-ddiwylliannol ac amlieithog, heddiw ac yn y dyfodol.

